Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Ymagwedd Gymdeithasol at Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd

Fframwaith holl-gymdeithas i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Datblygu a Chyflwyno Naratif Cyhoeddus ar gyfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Roedd y digwyddiad yn ddiwrnod o drafodaeth sy’n rhoi llawer i feddwl ar sut i wneud gwybodaeth am drawma yn ystyrlon i bob un ohonom: gwrando mwy am y gwaith parhaus i ddatblygu ein naratif cyhoeddus a ymuno â’r symudiad.

Gweld Pwyntiau Amlycaf y Digwyddiad

#AmseriFodynGaredig 2026

Cafodd ymgyrch flaenllaw Hyb ACE Cymru — #AmseriFodynGaredig — ei lansio yn 2019 gyda’r nod o hyrwyddo caredigrwydd a datblygu “Cymru sy’n ymwybodol o ACE” trwy annog dealltwriaeth a thrugaredd tuag at bobl sydd wedi eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae Hyb ACE Cymru bellach yn cyd-arwain gwaith gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru i greu cenedl sy’n ystyriol o drawma. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod yma o Gymru sy’n ystyriol o drawma, mae’r rhan yma o’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol trwy greu hysbyseb deledu llawn emosiwn sy’n annog creu cymdeithas fwy caredig fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ffynnu.

Gweld Ffilm y Ymgyrch Gweld a Lawrlwytho'r Asedau Cymdeithasol

Wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl a sefydliadau ledled Cymru ac wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru

Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Mae’r Fframwaith yn sefydlu sut mae unigolion, teuluoedd/rhwydweithiau cymorth eraill, cymunedau, sefydliadau a systemau yn ystyried adfyd a thrawma, gan gydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn y profiad hwn yn eu bywydau. Mae hefyd yn nodi’r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael gan y sefydliadau, y sectorau a’r systemau y gallant droi atynt am gymorth. Mae’n cynnwys pobl o bob oed, o fabanod, plant a phobl ifanc hyd at oedolion hŷn.

Mae’r Fframwaith yn darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, a set o bum egwyddor sy’n sail i bedair lefel ymarfer sy’n disgrifio’r gwahanol rolau y gall pobl a sefydliadau eu cael wrth gefnogi pobl y mae trawma’n effeithio arnynt. Mae’r lefelau’n ymestyn o ymwybyddiaeth gymdeithasol bod trawma ac adfyd yn bodoli a chydnabod y cyflwyniadau lluosog o effeithiau trawma; i galluogi gwasanaethau i gefnogi ymarfer sy’n helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig, eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel, hyd at ymyriadau clinigol arbenigol, sydd wedi’u personoli ac wedi’u cyd-gynhyrchu, pan fod angen rhain.

Datblygwyd y Fframwaith ar y cyd â Grŵp Cyfeirio Arbenigol a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o Gymru a phobl â phrofiad bywyd, a chyda phobl a sefydliadau ledled Cymru drwy ymgynghoriad cyhoeddus. Cefnogir y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru.

Lawrlwytho'r adroddiad Agor yn y porwr

Adnoddau Diweddaraf

Bod yn Ystyriol o Drawma: Iaith, Ystyr a Diwylliant yng Nghymru

Adroddiad Cryno ar y Peilot: Hyfforddiant Ymarfer, Sgiliau a Strategaethau sy’n Ystyriol o Drawma (TIPSS) i’r rheiny sy’n gweithio gydag oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ymarfer, Sgiliau a Strategaethau sy’n Ystyriol o Drawma ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (TIPSS-CYP): Adroddiad Cryno ar gyfer Gweithredu Cam Un y Cynllun Peilot (2024-2025)